Home Up

CUMBRIA

 

Gwiriwch Eich Ffynonellau!

Eleni cyhoeddwyd llyfr diddorol iawn o’r enw “Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd”, gan Glan George (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch). Y mae’n trafod pwnc hen deyrnasoedd Brythonaidd y tiroedd sydd heddiw yng ngogledd Lloegr a de’r Alban, a faint o’u hanes a’u diwylliant sydd wedi goroesi yno hyd y dydd hwn. Gyda hynny mewn golwg, cyfeirir (ar dudalen 328) at ddwy ffynnon, sef “Ffynnon y Santes Helen” ym mhentref Great Asby yn Cumbria (gweler y llun uchod) a “Ffynnon Powdonnet” ger Morland. Dyma a ddywed Glan George:

“I’r hen Geltiaid, roedd lleoedd gwlyb yn fannau sanctaidd, fel y tystiai’r creiriau a daflwyd i lynnoedd fel Llyn Cerrig Bach. Gyda thwf Cristnogaeth, diflannodd y mwyafrif o’r defodau oedd yn ymwneud â dŵr, ond parchuswyd eraill i’w cynnal ar wedd newydd. Dyna a ddigwyddodd i rai o ffynhonnau paganaidd Ardal y Llynnoedd, trwy newid eu henw a throi’r ddefod yn ddefod

Gristnogol. Un enghraifft yw’r ffynnon a gysylltid â’r dduwies Geltaidd Alauna ym mhentref Great Asby. Wedi derbyn y ffydd, newidiwyd yr enw i ‘St Helen’s Well’, felly nid syndod gweld mai eglwys y pentref oedd yn gyfrifol am adnewyddu’r safle yn 2008.

“Mae’n debyg mai’r syniad bod gan y dŵr rhyw briodoledd iachusol oedd yn gyfrifol am oroesiad Ffynnon Powdonnet ger Morland er bod y cof am ragoriaethau’r dŵr wedi pallu. Yn y ganrif ddiwethaf dywedir mai hen wraig o’r pentref oedd yn gwarchod y safle, ond y mae’n derbyn mwy o sylw erbyn hyn. Ymddengys o sillafiad yr enw mai ‘Pwll Dunawd’ oedd yr enw gwreiddiol ond ni wyddys pwy oedd hwnnw. Dunawd oedd enw mab Pabo Post Prydain [sic] yn y chweched ganrif ond yr oedd teyrnas Pabo ymhell tua’r gorllewin. Gwyddys o ganu Taliesin fod gan Urien lys ar lannau afon Lyvennet ond gall y ffynnon fod yn llawer hŷn na hyn. Pan ymwelais á’r safle beth amser yn ôl, yr oedd rhywun wedi gosod maen hir gyda’r enw ‘Powdonnet’ wrth ymyl y ffynnon ac yr oedd tusw o gennin Pedr wrth ei droed.”

Mae’r dyfyniad uchod yn ddiddorol, ond hefyd yn amlygu rhai o’r anawsterau sy’n wynebu’r sawl a gais wybodaeth am ffynhonnau. Mae’n wir y ceir ffynhonnell gref a pharhaus o’r enw “St Helen’s Well” yn Great Asby, ac y ceir hefyd dduwies Geltaidd o’r enw Alauna sydd â mannau wedi eu henwi ar ei hôl yn Llydaw, Ffrainc, Yr Alban a Lloegr, megis afon Aulne yn Llydaw; caerau Rhufeinig Alaunia (Maryport a Kendal) yn Cumbria; afon Aln yn Northumbria, ac efallai Allan Water yn yr Alban. Tenau, fodd bynnag, yw’r dystiolaeth o blaid awgrym a wnaed (gan  G. Jones yn ei “Holy wells and the cult of St Helen” yn y cylchgrawn Landscape History, 1986) bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y dduwies hon â St Helen’s Well yn Great Asby, a ffynhonnau Helen yn gyffredinol. Yr un mor simsan yw’r goel bod a wnelo Ffynnon Helen â duwies Geltaidd o’r enw “Elin”; a bod agos pob ac unrhyw ffynhonnell ddŵr gerllaw neu o fewn golwg unrhyw eglwys yn “ffynnon sanctaidd” (Cumberland and Westmorland Herald, 26.1.2007). Pedr, nid Helen, yw nawddsant eglwys Great Asby.

 

Maen hir Powdonnet, a godwyd ym 1994 Ddim mor hynafol, felly!.       

Felly hefyd yn achos Ffynnon Powdonnet. Crybwyllir yr enw “Powdonet” gyntaf ym 1637, ond nid oes sôn am “Powdonnet Well” hyd 1859. Yn ôl erthygl yn y Cumberland and Westmorland Herald 10.6.1999, nid yw dŵr y ffynnon byth yn pallu, nac yn rhewi. Mab Pabo Post Prydyn, yn ôl yr hen achresi, oedd Dunawd, tad Deiniol Sant ac ewythr Asaff a Thysilio: ond ni wyddom ymhle’n union yr oedd teyrnas Pabo, ac nid yw’n amhosibl y bu ganddo gysylltiad â dyffryn Llwyfenydd (Lyvennet).

Efallai’n wir mai o “Pwll Dunawd” y daw “Powdonnet”, ac efallai mai Dunawd fab Pabo oedd hwnnw: ond yr un mor debygol yw mai Dunawd neu Donnet arall roddodd ei enw ar y ffynnon. Bu “Donatus” a ffurfiau arno megis Dunawd neu Dunwyd yn enw eithaf cyffredin, nid un unig ymysg Brythoniaid ond hefyd ymysg    

Gwyddelod a Normaniaid. Nid oes dim i gysylltu’r safle ag unrhyw sant o'r enw “Dunawd”, ac fe gysegrwyd yr eglwys leol yn enw Sant Lawrens.

  H.H.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

Home Up